This is a part time opportunity of 22.5 hours per week. The succesful candidate will be expected to attend meetings in Pontypridd monthly.
Equal Opportunities
At Transport for Wales we value diversity. It makes us stronger, helps us understand our customers better, make better decisions and be more innovative. Everyone’s different and has their own perspective so we’re building a diverse team that mirrors the communities we serve. Through this we’re determined to be one of Wales' leading inclusive employers. We’re creating an inclusive transport network that everyone in Wales can be proud of.
Who we are
At Transport for Wales, we’re on a mission to transform transport in Wales and make it fit for the future, whether that’s rail, bus, walking or cycling. We want to inspire a nation to change the way it travels, so that we all travel more sustainably and help to combat the climate emergency we’re all facing.
We’re an open and inclusive place to work, where everyone is welcome and our people are supported to reach their full potential. We want to create an environment where our people can grow and succeed. This is key to enabling us to deliver on the promises we’ve made to the people of Wales to build a sustainable transport network that meets their needs.
Role responsibilities
To provide support, guidance and administration relating to the delivery of the Strategic Equality Plan and the Anti-Racism Action Plan.
- Assist the EDI Team with project delivery by providing administrative support and working with the wider business to ensure the successful delivery of project to time, cost and quality.
- Provide administrative support for the EDI Team by coordinating meetings, taking detailed minutes in meetings, and preparing and tracking actions to ensure there is an accurate record of decisions and discussions.
- Reporting on EDI metrics by collating data through Business Objects and Power BI on areas such as, disability confident leader, pre-employment information, employment data, pay gap reporting, monitoring equality impact assessment to highlight trends and inform business decisions.
- Provide initial EDI advice where relevant to colleagues and respond to queries in the EDI mailbox, using subject matter knowledge and TfW policies to provide guidance in line with EDI objectives.
Who we’re looking for
- Previous experience as a Coordinator, Administrator or Assistant working in a project role.
- Experience of drafting confidential documents with great attention to detail.
- A demonstrable passion for EDI, evidenced by active involvement in initiatives, projects, or advocacy work, or equivalent, that promotes inclusive practices.
- Experience in managing and analysing data and the ability to create management reports.
- Knowledge of the Equality Act 2010, its uses and limitations
Welsh Language Skills
The ability to speak/write Welsh would make a great addition to your application, but it is not essential for this role.
Transport for Wales supports and promotes the use of the Welsh Language by employees and will encourage them to develop, improve and maintain their Welsh Language skills. We fully support our people who want to improve their Welsh language skills, and personal development for Welsh Language skills are offered in a variety of ways such as online learning, classroom courses and funding attendance at local community courses.
Next steps
Does this role sound like the opportunity you are looking for? Do you want to find out more? See attached Job Description for further details.
Transport for Wales is a disability leader. We are happy to discuss any reasonable adjustments you may need in the recruitment process or as part of the role if you are successful.
This advert will close at midnight on the day of the application closing date stated above. We do encourage you to submit your application as early as possible.
Please note, we reserve the right to close this vacancy early if we receive sufficient applications.
-----------
Mae hwn yn gyfle rhan amser o 22.5 awr yr wythnos. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus fynychu cyfarfodydd ym Mhontypridd yn fisol.
Cyfle Cyfartal
Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.
Pwy ydyn ni
Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.
Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.
Cyfrifoldebau’r swydd
Darparu cefnogaeth, arweiniad a gweinyddiaeth sy’n ymwneud â chyflawni’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol a’r Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth.
- Helpu’r Tîm EDI i gyflawni prosiectau drwy roi cymorth gweinyddol a thrwy weithio gyda’r tîm busnes ehangach i sicrhau bod prosiectau’n cael eu cyflawni’n llwyddiannus o ran amser, cost ac ansawdd.
- Rhoi cymorth gweinyddol i’r Tîm EDI drwy gydlynu cyfarfodydd, cadw cofnodion manwl mewn cyfarfodydd, a pharatoi ac olrhain camau gweithredu i sicrhau bod cofnod cywir o’r penderfyniadau a'r trafodaethau.
- Adrodd ar fetrigau EDI drwy gasglu data drwy Business Objects a Power BI ar feysydd fel arweinydd hyderus o ran anabledd, gwybodaeth cyn cyflogi, data cyflogaeth, adroddiadau ar y bwlch cyflog, monitro asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb, er mwyn tynnu sylw at dueddiadau a llywio penderfyniadau busnes.
- Rhoi cyngor cychwynnol ar faterion EDI pan fydd yn berthnasol i gydweithwyr ac ymateb i ymholiadau yn y blwch post EDI, gan ddefnyddio gwybodaeth am bynciau a pholisïau TrC i roi arweiniad yn unol ag amcanion EDI.
Am bwy rydyn ni’n chwilio
- Profiad blaenorol fel Cydlynydd, Gweinyddwr neu Gynorthwyydd mewn rôl prosiect.
- Profiad o ddrafftio dogfennau cyfrinachol gan roi sylw gwych i fanylion.
- Brwdfrydedd amlwg dros EDI, a welir drwy gyfrannu’n frwd at fentrau, prosiectau neu waith eiriolaeth, neu waith cyfatebol, sy'n hyrwyddo arferion cynhwysol.
- Profiad o reoli a dadansoddi data a’r gallu i greu adroddiadau rheoli.
Gwybodaeth am Ddeddf Cydraddoldeb 2010, y defnydd o’r Ddeddf a’i chyfyngiadau.
Sgiliau Iaith Gymraeg
Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon
Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol
Y camau nesaf
A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.
Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.
Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.
* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.
**Sylwch fod yn rhaid i chi ddal yr hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.**